Plant yr ysgol sydd wedi ein hethol a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynrychioli pob un ohonynt yn ystod y flwyddyn. Rydym yn credu fod llais pawb yn bwysig.

Byddwn yn gweithio yn galed i wneud yn siwr fod pawb yn hapus yn yr ysgol a byddwn yn cyfrannu at wneud Ysgol Maenofferen yn ysgol dda iawn i bawb sydd yn rhan ohoni.